Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
P’un a ydych chi’n weinyddwr, yn weithiwr cymorth gofal iechyd, yn swyddog cymorth TG, neu’n feddyg sy’n gweithio mewn adran damweiniau ac achosion brys brysur, rydyn ni i gyd yn cyfrannu at gyflawni ein nodau.
Mae gan Gwm Taf Morgannwg 4 nod, sef:
- Creu iechyd
- Cynnal ein dyfodol
- Gwella gofal
- Ysbrydoli pobl
Dyma rai o’n huwch-arweinwyr yn egluro sut rydyn ni’n gweithio i gyflawni’r nodau hyn.