Ar 5 Gorffennaf 1948, digwyddodd moment hanesyddol yn hanes Prydain, cynllun beiddgar ac arloesol i sicrhau nad yw gofal iechyd bellach yn gyfyngedig i’r rhai a allai ei fforddio ond i’w wneud yn hygyrch i bawb. Cafodd y GIG ei eni.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhan o deulu GIG Cymru. Mae ein Bwrdd Iechyd yn darparu gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a chymunedol ynghyd â gwasanaethau lles i tua 450,000 o bobl sy’n byw mewn tair sir: Pen-y-bont ar Ogwr, Merthur Tydful a Rhondda Cynon Taf.

Mewn cydweithrediad â sawl partner lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y sector cyhoeddus yn ehangach, y diwydiant preifat a sefydliadau yn y trydydd sector, rydyn ni’n darparu gwasanaethau iechyd craidd ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydyn ni’n gyflogwr lleol balch; mae oddeutu 80% o’n gweithlu o 15,000 yn byw o fewn ein rhanbarth. O ganlyniad, nid enaid y sefydliad yn unig y mae ein staff yn ei gynrychioli, ond y cymunedau amrywiol rydyn ni’n eu gwasanaethu.