Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae darparu gofal o ansawdd uchel a chynnal gwasanaethau effeithiol yn ymdrech tîm yng Nghwm Taf Morgannwg.
Yn ogystal â rolau clinigol mewn nyrsio a bydwreigiaeth, deintyddiaeth a nifer o feysydd arbenigol eraill, mae gyda ni nifer o dimau ymroddedig yn darparu nifer fawr o wasanaethau corfforaethol a chymorth sy’n hanfodol i gynnal ein Bwrdd Iechyd.
Gyda’n gilydd rydyn ni’n un tîm, yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i’n cleifion a’n staff.
Rydyn ni’n falch o’r cyfraniad y mae pob aelod o staff yng Nghwm Taf Morgannwg yn ei wneud wrth ddarparu’r gofal gorau posibl i’n cymunedau.